Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar

Anhwylderau Bwyta

15 Mehefin 2023, 12:00 – 13:15

Microsoft Teams

 

Yn bresennol

 

Amelia Holt

Jonathan Kelly

Hajrah Khan

Sarah Murphy AS

Helen Low

Euan Hails

Sarah Hanney

Sarah White

Kate Meredith

Dr Nia Holford

 

Dr Natalie Chetwynd

Sarah Williamson

Katherine Lowther

Emma-Jayne Hagerty

Naomi Swift 

Bethan Wilson

Gemma Johns

Alka Ahuja

Vicky Daniels

Tamsin Speight


 

1.  Croeso ac ymddiheuriadau

 

CAFWYD: Ymddiheuriadau gan aelodau absennol:

Jo Whitfield

Mike Hedges AS

Emily Hoskins

Georgia Taylor

 

 

2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf a’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau i’w cymryd / materion sy’n codi

Camau i’w cymryd

Rhoddodd Amelia Holt y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp ar ran Jo Whitfield.

 

Gwahoddwyd PGIAC i’r cyfarfod nesaf yn yr hydref.

 

3. Ysgolion a’u rôl o ran adnabod anhwylderau bwyta’n gynnar a’u hatal

Camau i’w cymryd

Rhoddodd Sarah Murphy y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n digwydd mewn ysgolion i adnabod unigolion ag anhwylderau bwyta. Tynnodd sylw at effeithiau negyddol posibl rhai o ddulliau gweithredu Pwysau Iach, Cymru Iach. Dywedodd ei bod wedi codi hyn gyda’r Gweinidog Iechyd, a pham y gallai rhai o’r rhain fod yn niweidiol.

 

Tynnodd Sarah Murphy hefyd sylw at yr angen i sicrhau cydbwysedd o ran y negeseuon ynghylch materion sy’n ymwneud â bwyd a phwysau. Soniodd Sarah Williamson o’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) am ei phryderon ynghylch labelu calorïau ar fwydlenni (CLOM). Dywedodd Euan Hails fod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCP) hefyd yn llunio datganiad safbwynt. Mae’r RCN a’r RCP yn awyddus i CLOM gael ei atal am y tro (fel yn yr Alban) neu iddo beidio â chael ei weithredu o gwbl. Bydd yr RCN, yr RCP a Beat yn cynnal sesiwn galw heibio i Aelodau o’r Senedd, i dynnu sylw at safbwynt pobl sy’n siarad o brofiad ar CLOM.

 

Dywedodd Tamsin Speight ei bod yn angerddol ynghylch cymorth mewn ysgolion, ac y dylem fod yn edrych ar raglenni atal y profwyd eu bod yn effeithiol, e.e. The Body Project ac eraill. Dywedodd y gallai fod yn heriol gweithredu’r rhaglenni hyn oherwydd pryderon ynghylch staffio mewn ysgolion. Dywedodd Sarah Murphy y gallem ystyried gwahodd rhywun sy’n darparu’r sesiynau hyn i’r Grŵp Trawsbleidiol.

Sarah Murphy i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn yn y cyfarfod nesaf.

4. Arferion gorau

 

Rhoddodd Hajrah Khan a Helen Low gyflwyniad ar arferion gorau anghlinigol. Soniodd Helen am ei phrofiadau hi ei hun o CAMHS a gwasanaethau i oedolion, a phrofiadau ei rheini. Siaradodd yn benodol am yr heriau sydd ynghlwm wrth symud o’r naill i’r llall. Diolchodd y grŵp i Helen am rannu ei phrofiadau, a soniodd Sarah Murphy am ei phrofiad hithau. Tynnodd SM sylw at adroddiad ‘Sortiwch y Switsh’ Mind Cymru. Siaradodd Emma Hagerty am yr heriau y mae gwasanaethau anhwylderau bwyta’n eu hwynebu wrth geisio rhyngweithio â thimau iechyd meddwl oedolion cyffredinol. Dywedodd Euan Hails fod angen gwaith ar symud o’r naill wasanaeth i’r llall a gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.

Beat i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith sy’n ymwneud ag arferion gorau yn y cyfarfod nesaf.

5. Y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Arweinydd Clinigol ar Anhwylderau Bwyta a Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Ymgynghoriad ar y Strategaeth 10 mlynedd

 

Mae Tamsin wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth. Gofynnodd beth yw’r ffordd orau i ni fel cymuned anhwylderau bwyta gyfrannu at yr ymgynghoriad.

 

Rhoddodd Tamsin wybodaeth i ni am ei gwaith fel Arweinydd Clinigol ar Anhwylderau Bwyta. Dywedodd ei bod wedi edrych yn y gorffennol ar heriau o ran cael gafael ar wasanaethau arbenigol a darparu hyfforddiant i staff Timau Iechyd Meddwl Cymunedol er mwyn cynnig therapïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn dod i adnabod ei thîm a’r gymuned anhwylderau bwyta ehangach ac yn ymgyfarwyddo â’i briff. Mae wedi canolbwyntio hyd yma ar hyfforddiant, gweithredu canllawiau Argyfyngau Meddygol mewn Anhwylderau Bwyta (MEED), a phosibilrwydd cael un pwynt mynediad ar gyfer triniaethau. Dywedodd Euan Hails fod un pwynt mynediad yn gweithio’n dda yn CAMHS AB.

 

Dywedodd Tamsin hefyd eu bod am recriwtio rheolwr prosiect i gefnogi ei gwaith. Dywedodd Sarah Murphy fod angen i swydd Tamsin fod yn un amser llawn, hirdymor.

 

Gofynnodd Helen Low a oes cynlluniau ar waith i sicrhau bod staff mewn lleoliadau gofal iechyd brys wedi cael hyfforddiant anhwylderau bwyta. Dywedodd Tamsin fod hyn yn bwysig a’u bod yn gweithio tuag at hynny, a’i bod yn bwysig gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig.

 

Gofynnodd Sarah gwestiwn ynghylch yr angen am welyau cleifion mewnol a sut yr oedd Tamsin yn gweld hynny’n mynd rhagddo. Dywedodd Tamsin fod angen i ni aros i weld beth fydd canlyniad adolygiad PGIAC, a bod llawer o opsiynau o ran gwelyau cleifion mewnol y mae angen edrych arnynt.

 

Soniodd Annalise Ayre am ei phrofiadau hithau a’r rhwystrau a wynebwyd ganddi wrth iddi geisio dod o hyd i driniaeth oherwydd ei chydafiacheddau. Tynnodd sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, yn enwedig pan fo gan bobl gyflyrau iechyd eraill neu pan fônt yn niwrowahanol, er mwyn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu. Mae ymyrraeth gynnar yn bwysig, ond ni ddylid gadael pobl sydd wedi mynd ymhellach ar siwrnai eu salwch ar ôl.

 

Pwysleisiodd Sarah fod sicrhau bod PGIAC yn dod i’n cyfarfod nesaf yn flaenoriaeth bwysig.

 

6. Calorïau ar Fwydlenni – y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth arfaethedig yng Nghymru

 

Trafodwyd hyn o dan eitem 3.

 

7. Adolygu’r camau i’w cymryd a dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Sarah Murphy i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith mewn ysgolion yn y cyfarfod nesaf.

 

Beat i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith sy’n ymwneud ag arferion gorau yn y cyfarfod nesaf.

 

Cymeradwyodd y grŵp gofnodion y cyfarfod diwethaf a chytunwyd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf ar ôl toriad yr haf. Cytunodd Amelia Holt i gylchredeg y dyddiad yn ystod y misoedd nesaf.

 

Diolchodd Sarah Murphy i bawb am eu hamser.